Mathew 15 BNET

Glân ac aflan

1 Dyma Phariseaid ac arbenigwyr yn y Gyfraith o Jerwsalem yn dod at Iesu, a gofyn iddo,

2 “Pam mae dy ddisgyblion di yn gwneud beth sy'n groes i'r traddodiad? Maen nhw'n bwyta heb fynd drwy'r ddefod o olchi eu dwylo!”

3 Atebodd Iesu, “A pham dych chi'n mynd yn groes i orchymyn Duw er mwyn cadw'ch traddodiadau?

4 Er enghraifft, gorchmynnodd Duw, ‘Gofala am dy dad a dy fam’ a ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n sarhau ei dad neu ei fam gael ei ladd.’

5 Ond dych chi'n dweud ei bod yn iawn dweud wrth rieni mewn oed, ‘Alla i ddim gofalu amdanoch chi. Mae beth o'n i'n mynd i'w roi i chi wedi ei gyflwyno'n rhodd i Dduw,’

6 Does dim rhaid ‛gofalu am dad‛ wedyn. Er mwyn cadw'ch traddodiad dych chi'n osgoi gwneud beth mae Duw'n ei ddweud.

7 Dych chi mor ddauwynebog! Roedd Eseia yn llygad ei le pan broffwydodd amdanoch chi:

8 ‘Mae'r bobl yma'n dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau yn bell oddi wrtho i.

9 Mae eu haddoliad yn ddiystyr; mân-reolau dynol ydy'r cwbl maen nhw'n ei ddysgu.’”

10 Yna dyma Iesu'n galw'r dyrfa ato a dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch er mwyn i chi ddeall.

11 Dim beth dych chi'n ei fwyta sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛; y pethau dych chi'n eu dweud sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛.”

12 A dyma'r disgyblion yn mynd ato a dweud wrtho, “Mae beth ddwedaist ti wedi cythruddo'r Phariseaid go iawn!”

13 Atebodd yntau, “Bydd pob planhigyn wnaeth fy Nhad nefol ddim ei blannu yn cael ei dynnu i fyny.

14 Gadewch iddyn nhw – arweinwyr dall ydyn nhw! Os ydy dyn dall yn arwain dyn dall arall, bydd y ddau yn disgyn i ffos gyda'i gilydd.”

15 Yna meddai Pedr, “Esbonia i ni beth ydy ystyr y dywediad.”

16 “Ydych chi'n dal mor ddwl?” meddai Iesu.

17 “Ydych chi ddim yn gweld fod bwyd ddim ond yn mynd drwy'r stumog ac yna'n dod allan yn y tŷ bach?

18 Ond mae'r pethau dych chi'n eu dweud yn dod o'r galon, a dyna sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛.

19 O'ch calon chi mae meddyliau drwg yn dod, a phethau fel llofruddio, godinebu, anfoesoldeb rhywiol, dwyn, rhoi tystiolaeth ffug, a hel straeon cas.

20 Dyma'r pethau sy'n gwneud rhywun yn ‛aflan‛. Dydy bwyta heb gadw'r ddefod o olchi'r dwylo ddim yn eich gwneud chi'n ‛aflan‛.”

Ffydd y wraig Gananeaidd

21 Gadawodd Iesu Galilea ac aeth i ffwrdd i gylch Tyrus a Sidon.

22 Daeth gwraig ato (gwraig o'r ardal oedd o dras Cananeaidd), a gweiddi, “Arglwydd, Fab Dafydd, helpa fi! Mae fy merch yn dioddef yn ofnadwy am ei bod yng ngafael cythraul.”

23 Wnaeth Iesu ddim ymateb o gwbl. A dyma'i ddisgyblion yn dod ato a phwyso arno, “Anfon hi i ffwrdd, mae hi'n boen yn dal ati i weiddi ar ein holau ni!”

24 Felly atebodd Iesu hi, “Dim ond at bobl Israel, sydd fel defaid ar goll, ces i fy anfon.”

25 Ond dyma'r wraig yn dod a phenlinio o'i flaen. “Helpa fi, Arglwydd!” meddai.

26 Atebodd Iesu, “Dydy hi ddim yn iawn i bobl daflu bwyd y plant i'r cŵn.”

27 “Digon gwir, Arglwydd,” meddai'r wraig, “ond mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta'r briwsion sy'n disgyn oddi ar fwrdd eu meistr.”

28 Atebodd Iesu, “Wraig annwyl, mae gen ti lot o ffydd! Cei beth ofynnaist amdano.” A dyna'r union adeg y cafodd ei merch ei hiacháu.

Iesu'n bwydo'r pedair mil

29 Pan adawodd Iesu'r ardal honno, teithiodd ar lan Llyn Galilea. Yna aeth i ben mynydd ac eistedd i lawr.

30 Daeth tyrfaoedd mawr o bobl ato, gyda phobl oedd yn gloff, neu'n ddall, neu'n anabl, neu'n fud. Cawson nhw eu gosod o'i flaen, a iachaodd nhw.

31 Roedd y bobl wedi eu syfrdanu wrth weld y mud yn siarad, pobl anabl wedi cael eu hiacháu, y cloff yn cerdded a'r dall yn gweld. A dyma nhw'n dechrau moli Duw Israel.

32 Dyma Iesu'n galw ei ddisgyblion ato a dweud, “Dw i'n teimlo dros y bobl yma i gyd; maen nhw wedi bod yma ers tri diwrnod heb gael dim i'w fwyta. Dw i ddim am iddyn nhw fynd i ffwrdd heb gael rhywbeth i'w fwyta, rhag iddyn nhw lewygu ar y ffordd.”

33 Meddai'r disgyblion, “Ble gawn ni ddigon o fara i fwydo'r fath dyrfa mewn lle mor anial!”

34 “Sawl torth o fara sydd gynnoch chi?” meddai Iesu.“Saith,” medden nhw, “a rhyw ychydig o bysgod bach.”

35 Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr.

36 Cymerodd y saith torth a'r pysgod, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a'u rhoi i'r disgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl.

37 Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben.

38 Roedd pedair mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant!

39 Ar ôl i Iesu anfon y dyrfa adre aeth i mewn i'r cwch a chroesi i ardal Magadan.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28