Mathew 24 BNET

Arwyddion o ddiwedd y byd

1 Wrth i Iesu adael y deml dyma'i ddisgyblion yn dod ato ac yn tynnu ei sylw at yr adeiladau.

2 “Ydych chi'n gweld y rhain i gyd?” meddai. “Credwch chi fi, bydd y cwbl yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi ei gadael yn ei lle.”

3 Yn nes ymlaen, pan oedd Iesu'n eistedd ar ochr Mynydd yr Olewydd, daeth ei ddisgyblion ato yn breifat a gofyn, “Pryd mae beth roeddet ti'n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd i ddangos i ni dy fod di'n dod, a bod diwedd y byd wedi cyrraedd?”

4 Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi.

5 Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, ac yn dweud, ‘Fi ydy'r Meseia,’ a byddan nhw'n llwyddo i dwyllo llawer o bobl.

6 Bydd rhyfeloedd a byddwch yn clywed sôn am ryfeloedd. Ond peidiwch cynhyrfu – mae pethau felly'n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod.

7 Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd.

8 Dim ond y dechrau ydy hyn i gyd!

9 “Cewch eich arestio a'ch cam-drin a'ch lladd. Bydd pobl ym mhob gwlad yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi.

10 Bydd llawer yn troi cefn arna i bryd hynny, ac yn bradychu a casáu ei gilydd.

11 Bydd proffwydi ffug yn codi ac yn twyllo llawer iawn o bobl.

12 Bydd mwy a mwy o ddrygioni, bydd cariad y rhan fwyaf yn oeri,

13 ond bydd yr un sy'n sefyll yn gadarn i'r diwedd un yn cael ei achub.

14 A bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod.

15 “Pan fydd beth soniodd y proffwyd Daniel amdano yn digwydd, hynny ydy ‘Yr eilun ffiaidd sy'n dinistrio’ yn sefyll yn y cysegr sanctaidd

16 (rhaid i'r un sy'n darllen ddeall hyn!), dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i'r mynyddoedd.

17 Fydd dim cyfle i neb sydd y tu allan i'w dŷ fynd i mewn i nôl unrhyw beth.

18 A ddylai neb sydd allan yn y maes fynd adre i nôl ei gôt hyd yn oed.

19 Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy'n magu plant bach bryd hynny!

20 Gweddïwch y bydd dim rhaid i chi ffoi yn ystod y gaeaf neu ar ddydd Saboth.

21 Achos bryd hynny bydd argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o'r blaen – a fydd dim byd tebyg yn y dyfodol chwaith!

22 Oni bai iddo gael ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond bydd yn cael ei wneud yn gyfnod byr er mwyn y bobl mae Duw wedi eu dewis.

23 Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy'r Meseia!’ neu ‘Dacw fe!’ peidiwch credu'r peth.

24 Bydd llawer i ‛Feseia‛ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw'n twyllo'r bobl hynny mae Duw wedi eu dewis petai'r fath beth yn bosib!

25 Cofiwch mod i wedi dweud hyn ymlaen llaw.

26 “Felly os bydd rhywun yn dweud wrthoch chi, ‘Mae'r Meseia acw, allan yn yr anialwch,’ peidiwch mynd yno i edrych; neu ‘mae e'n cuddio yma,’ peidiwch credu'r peth.

27 Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl – bydd mor amlwg â mellten yn goleuo'r awyr o'r dwyrain i'r gorllewin.

28 Bydd mor amlwg â'r ffaith fod yna gorff marw ble bynnag mae fwlturiaid wedi casglu.

29 “Ond yn union ar ôl yr argyfwng hwnnw, ‘Bydd yr haul yn tywyllu, a'r lleuad yn peidio rhoi golau; bydd y sêr yn syrthio o'r awyr, a'r planedau yn ansefydlog.’

30 “Yna bydd arwydd i'w weld yn yr awyr yn rhybuddio fod Mab y Dyn ar fin dod, a bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru. Bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod ar gymylau'r awyr gyda grym ac ysblander mawr.

31 Bydd utgorn yn canu ffanffer uchel a bydd Duw yn anfon ei angylion i gasglu'r rhai mae wedi eu dewis o bob rhan o'r byd.

32 “Dysgwch wers gan y goeden ffigys: Pan mae'r brigau'n dechrau blaguro a dail yn dechrau tyfu arni, gwyddoch fod yr haf yn agos.

33 Felly'r un fath, pan fyddwch yn gweld y pethau yma i gyd, byddwch yn gwybod ei fod ar fin dod yn ôl – reit y tu allan i'r drws!

34 Credwch chi fi, bydd y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd.

35 Bydd yr awyr a'r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i'n ddweud yn aros am byth.

Neb yn gwybod pa bryd

36 “Does neb ond y Tad yn gwybod y dyddiad a pha amser o'r dydd y bydd hyn yn digwydd – dydy'r angylion ddim yn gwybod, na hyd yn oed y Mab ei hun!

37 Bydd hi yr un fath ag oedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl.

38 Yn y dyddiau yn union cyn y llifogydd, roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i'r arch.

39 Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd yn mynd i ddigwydd nes i'r llifogydd ddod a'u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd! Fel yna'n union y bydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl.

40 Bydd dau allan yn y maes; bydd un yn cael ei gymryd i fwrdd ac un yn cael ei adael.

41 Bydd dwy wraig yn malu ŷd gyda melin law; bydd un yn cael ei chymryd i ffwrdd ac un yn cael ei gadael.

42 “Gwyliwch felly, achos dych chi ddim yn gwybod y dyddiad pan bydd eich Arglwydd yn dod yn ôl.

43 Meddyliwch! Petai perchennog y tŷ yn gwybod ymlaen llaw pryd yn ystod y nos roedd y lleidr yn dod, byddai wedi aros i wylio a'i rwystro rhag torri i mewn i'w dŷ.

44 Felly rhaid i chi fod yn barod drwy'r adeg. Bydda i, Mab y Dyn, yn cyrraedd pan fyddwch chi ddim yn disgwyl!

Y gwas ffyddlon neu anffyddlon

45 “Felly pwy ydy'r swyddog doeth mae'r meistr yn gallu dibynnu arno? Mae wedi ei benodi i fod yn gyfrifol am y gweision i gyd, ac i'w bwydo'n rheolaidd.

46 Ac os bydd yn gwneud ei waith yn iawn pan ddaw'r meistr yn ôl, bydd yn cael ei wobrwyo.

47 Wir i chi, bydd yn cael y cyfrifoldeb o ofalu am eiddo'r meistr i gyd!

48 Ond beth petai'r swyddog yna'n un drwg, ac yn meddwl iddo'i hun, ‘Mae'r meistr wedi bod i ffwrdd yn hir iawn,’

49 ac yn mynd ati i gam-drin ei gydweithwyr, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon.

50 Byddai'r meistr yn dod yn ôl yn gwbl ddirybudd,

51 a'i gosbi'n llym a'i daflu allan gyda'r rhai hynny sy'n gwneud sioe o'u crefydd. Yno bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28