1 Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan (brawd Iago) gydag e.
2 Dyma olwg Iesu'n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid – roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a throdd ei ddillad yn wyn llachar fel golau.
3 Wedyn dyma Moses ac Elias yn ymddangos, yn sgwrsio gyda Iesu.
4 Dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, mae'n dda cael bod yma. Os wyt ti eisiau, gwna i godi tair lloches yma – un i ti, un i Moses, ac un i Elias.”
5 Roedd yn dal i siarad pan ddaeth cwmwl disglair i lawr o'u cwmpas, a dyma lais o'r cwmwl yn dweud, “Fy Mab annwyl i ydy hwn; mae wedi fy mhlesio i'n llwyr. Gwrandwch arno!”
6 Pan glywodd y disgyblion y llais roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n syrthio ar eu hwynebau ar lawr.
7 Ond dyma Iesu'n mynd atyn nhw a'u cyffwrdd, a dweud wrthyn nhw, “Codwch, peidiwch bod ag ofn.”
8 Pan wnaethon nhw edrych i fyny doedd neb i'w weld yno ond Iesu.
9 Pan oedden nhw'n dod i lawr o'r mynydd, dyma Iesu'n dweud yn glir wrthyn nhw, “Peidiwch sôn wrth neb am beth dych chi wedi ei weld nes bydda i, Mab y Dyn, wedi dod yn ôl yn fyw ar ôl marw.”
10 Dyma'r disgyblion yn gofyn iddo, “Felly pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod rhaid i Elias ddod yn ôl cyn i'r Meseia gyrraedd?”
11 Atebodd Iesu, “Mae Elias yn dod reit siŵr, a bydd yn rhoi trefn ar bopeth.
12 Dw i'n dweud wrthoch chi fod Elias wedi dod eisoes, ond wnaethon nhw mo'i nabod, ac maen nhw wedi ei gam-drin. A bydda i, Mab y Dyn, yn dioddef yr un fath ganddyn nhw.”
13 Dyna pryd deallodd y disgyblion ei fod yn siarad am Ioan Fedyddiwr.
14 Pan ddaethon nhw at y dyrfa, dyma ddyn yn dod at Iesu a phenlinio o'i flaen.
15 “Arglwydd, helpa fy mab i,” meddai. “Mae'n cael ffitiau ac yn dioddef yn ofnadwy. Mae'n syrthio yn aml i ganol y tân, neu i ddŵr.
16 Des i ag e at dy ddisgyblion di, ond doedden nhw ddim yn gallu ei iacháu.”
17 “Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i'ch dioddef chi? Tyrd â'r bachgen yma ata i.”
18 Dyma Iesu'n ceryddu'r cythraul, a daeth allan o'r bachgen, a chafodd ei iacháu y foment honno.
19 Dyma'r disgyblion yn gofyn yn breifat i Iesu, “Pam oedden ni'n methu ei fwrw allan?”
20 “Am eich bod chi'n credu cyn lleied,” meddai. “Credwch chi fi, petai'ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Symud i'r fan acw’ a byddai'n symud. Fyddai dim byd yn amhosib i chi.”
22 Pan ddaethon nhw at ei gilydd yn Galilea, dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu i afael
23 pobl fydd yn fy lladd, ond ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw.” Roedd y disgyblion yn ofnadwy o drist.
24 Pan gyrhaeddodd Iesu a'i ddisgyblion Capernaum, daeth y rhai oedd yn casglu'r dreth i gynnal y deml at Pedr (hynny ydy y dreth o ddwy ddrachma). Dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy dy athro di'n talu treth y deml?”
25 “Ydy, mae e” atebodd Pedr.Pan aeth Pedr adre, cyn iddo gael cyfle i ddweud gair, dyma Iesu'n gofyn iddo, “Simon, beth wyt ti'n feddwl? Gan bwy mae brenhinoedd yn casglu tollau a threthi – gan eu plant eu hunain neu gan bobl eraill?”
26 “Gan bobl eraill,” meddai Pedr. “Felly does dim rhaid i'r plant dalu,” meddai Iesu wrtho.
27 “Ond rhag i ni beri tramgwydd iddyn nhw, dos at y llyn a thaflu lein i'r dŵr. Cymer y pysgodyn cyntaf wnei di ei ddal, ac yn ei geg cei ddarn arian fydd yn ddigon i'w dalu. Defnyddia hwnnw i dalu'r dreth drosto i a thithau.”