18 Am fod Ioan ddim yn bwyta ac yn yfed fel pawb arall, roedden nhw'n dweud, ‘Mae yna gythraul ynddo.’
19 Ond wedyn dyma fi, Mab y Dyn yn dod, yn bwyta ac yn yfed, a maen nhw'n dweud, ‘y bolgi! Meddwyn yn diota a stwffio'i hun! Ffrind i'r twyllwyr sy'n casglu trethi i Rufain ac i bechaduriaid eraill ydy e!’ Gallwch nabod doethineb go iawn yn ôl pa mor gyson ydy'r dadleuon. Dych chi mor anghyson mae'ch ffolineb chi'n amlwg!”
20 Dechreuodd Iesu feirniadu pobl y trefi hynny lle gwnaeth y rhan fwyaf o'i wyrthiau, am eu bod heb droi at Dduw.
21 “Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petai'r gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddai'r bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar trwy wisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau.
22 Wir i chi, bydd hi'n well ar Tyrus a Sidon ar ddydd y farn nag arnoch chi!
23 A beth amdanat ti, Capernaum? Wyt ti'n meddwl y byddi di'n cael dy anrhydeddu? Na, byddi di'n cael dy fwrw i lawr i'r dyfnder tywyll! Petai'r gwyrthiau wnes i ynot ti wedi digwydd yn Sodom, byddai Sodom yn dal yma heddiw!
24 Wir i chi, bydd hi'n well ar Sodom ar ddydd y farn nag arnat ti!”