1 Bryd hynny aeth Iesu drwy ganol caeau ŷd ar y dydd Saboth. Roedd ei ddisgyblion eisiau bwyd, a dyma nhw'n dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd a'u bwyta.
2 Wrth weld hyn dyma'r Phariseaid yn dweud wrtho, “Edrych! Mae dy ddisgyblion di yn torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth!”
3 Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i griw o ddilynwyr yn llwgu?
4 Aeth i mewn i dŷ Dduw, a bwyta'r bara oedd wedi ei gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud fod ganddo fe a'i ddilynwyr ddim hawl i'w fwyta; dim ond yr offeiriaid oedd â hawl.
5 Neu ydych chi ddim wedi darllen beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud am y Saboth? Mae'r offeiriaid yn torri rheolau'r Saboth trwy weithio yn y deml! Ac eto maen nhw'n cael eu cyfri'n ddieuog.
6 Gwrandwch – mae rhywbeth mwy na'r deml yma!
7 Petaech chi wedi deall ystyr y gosodiad, ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau,’ fyddech chi ddim yn condemnio'r dieuog.