12 Mae person yn llawer mwy gwerthfawr na dafad! Felly, ydy, mae'n iawn yn ôl y Gyfraith i wneud daioni ar y Saboth.”
13 Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr, nes ei bod mor gryf â'r llaw arall.
14 Ond dyma'r Phariseaid yn mynd allan i drafod sut allen nhw ladd Iesu.
15 Roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd, ac aeth i ffwrdd oddi yno. Roedd llawer o bobl yn ei ddilyn, ac iachaodd bob un ohonyn nhw oedd yn glaf,
16 ond roedd yn eu rhybuddio i beidio dweud pwy oedd e.
17 Dyma sut daeth yr hyn ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn wir:
18 “Dyma'r un dw i wedi ei ddewis yn was i mi, yr un dw i'n ei garu, ac mor falch ohono; Rhof fy Ysbryd Glân iddo, a bydd yn cyhoeddi cyfiawnder i'r cenhedloedd.