17 Dyma sut daeth yr hyn ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn wir:
18 “Dyma'r un dw i wedi ei ddewis yn was i mi, yr un dw i'n ei garu, ac mor falch ohono; Rhof fy Ysbryd Glân iddo, a bydd yn cyhoeddi cyfiawnder i'r cenhedloedd.
19 Fydd e ddim yn cweryla nac yn gweiddi i dynnu sylw ato'i hun, a fydd neb yn clywed ei lais ar y strydoedd;
20 Fydd e ddim yn torri brwynen wan, nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu. Bydd e'n arwain cyfiawnder i fod yn fuddugol.
21 Bydd pobl o'r holl genhedloedd yn rhoi eu gobaith ynddo.”
22 Dyma nhw'n dod â dyn at Iesu oedd yn ddall ac yn methu siarad am ei fod yng ngafael cythraul. Dyma Iesu'n ei iacháu, ac roedd yn gallu siarad a gweld wedyn.
23 Roedd y bobl i gyd yn rhyfeddu, ac yn dweud, “Tybed ai hwn ydy Mab Dafydd?”