22 Dyma nhw'n dod â dyn at Iesu oedd yn ddall ac yn methu siarad am ei fod yng ngafael cythraul. Dyma Iesu'n ei iacháu, ac roedd yn gallu siarad a gweld wedyn.
23 Roedd y bobl i gyd yn rhyfeddu, ac yn dweud, “Tybed ai hwn ydy Mab Dafydd?”
24 Ond pan glywodd y Phariseaid am y peth, dyma nhw'n dweud, “Beelsebwl (y diafol ei hun), tywysog y cythreuliaid, sy'n rhoi'r gallu iddo wneud hyn.”
25 Roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn mynd trwy'u meddyliau, ac meddai wrthyn nhw, “Bydd teyrnas lle mae yna ryfel cartref yn syrthio, a bydd dinas neu deulu sy'n ymladd â'i gilydd o hyd yn syrthio hefyd.
26 Os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun, a'i deyrnas wedi ei rhannu, sut mae'n bosib i'w deyrnas sefyll?
27 Os mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi, pwy sy'n rhoi'r gallu i'ch dilynwyr chi? Byddan nhw'n eich barnu chi.
28 Ond os mai Ysbryd Duw sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid, yna mae Duw wedi dod i deyrnasu.