32 Bydd rhywun sydd wedi dweud rhywbeth yn fy erbyn i, Mab y Dyn, yn cael maddeuant, ond does dim maddeuant i bwy bynnag sy'n dweud rhywbeth yn erbyn yr Ysbryd Glân, yn yr oes yma nac yn yr oes i ddod.
33 “Dewiswch y naill neu'r llall – fod y goeden yn iach a'i ffrwyth yn dda, neu fod y goeden yn ddrwg a'i ffrwyth yn ddrwg. Y ffrwyth sy'n dangos sut goeden ydy hi.
34 Dych chi fel nythaid o nadroedd! Sut allwch chi sy'n ddrwg ddweud unrhyw beth da? Mae'r hyn mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sy'n eu calonnau nhw.
35 Mae pobl dda yn rhannu'r daioni sydd wedi ei storio o'u mewn, a phobl ddrwg yn rhannu'r drygioni sydd wedi ei storio ynddyn nhw.
36 Ar ddydd y farn, bydd rhaid i bobl roi cyfri am bob peth byrbwyll wnaethon nhw ei ddweud.
37 Cei dy ddyfarnu'n euog neu'n ddieuog ar sail beth ddwedaist ti.”
38 Dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid yn dod ato, a dweud wrtho, “Athro, gad i ni dy weld di'n gwneud rhyw arwydd gwyrthiol.”