35 Mae pobl dda yn rhannu'r daioni sydd wedi ei storio o'u mewn, a phobl ddrwg yn rhannu'r drygioni sydd wedi ei storio ynddyn nhw.
36 Ar ddydd y farn, bydd rhaid i bobl roi cyfri am bob peth byrbwyll wnaethon nhw ei ddweud.
37 Cei dy ddyfarnu'n euog neu'n ddieuog ar sail beth ddwedaist ti.”
38 Dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid yn dod ato, a dweud wrtho, “Athro, gad i ni dy weld di'n gwneud rhyw arwydd gwyrthiol.”
39 Atebodd nhw, “Cenhedlaeth ddrwg ac anffyddlon sy'n gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i! Yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona.
40 Fel y daeth Jona allan yn fyw o fol y pysgodyn mawr ar ôl tri diwrnod, felly y bydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl yn fyw o berfedd y ddaear.
41 Bydd pobl Ninefe hefyd yn condemnio pobl y genhedlaeth yma, am eu bod nhw wedi newid eu ffyrdd ar ôl clywed pregethu Jona. Mae un mwy na Jona yma nawr!