9 Aeth oddi yno a mynd i'w synagog nhw,
10 ac roedd dyn yno oedd â'i law yn ddiffrwyth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i gyhuddo Iesu, felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod hi'n iawn i iacháu pobl ar y Saboth?”
11 Atebodd nhw, “Petai dafad un ohonoch chi'n syrthio i ffos ar y Saboth, fyddech chi ddim yn mynd i'w chodi hi allan?
12 Mae person yn llawer mwy gwerthfawr na dafad! Felly, ydy, mae'n iawn yn ôl y Gyfraith i wneud daioni ar y Saboth.”
13 Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr, nes ei bod mor gryf â'r llaw arall.
14 Ond dyma'r Phariseaid yn mynd allan i drafod sut allen nhw ladd Iesu.
15 Roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd, ac aeth i ffwrdd oddi yno. Roedd llawer o bobl yn ei ddilyn, ac iachaodd bob un ohonyn nhw oedd yn glaf,