1 Tua'r adeg yna clywodd y llywodraethwr Herod y straeon am Iesu.
2 Dwedodd wrth ei swyddogion, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi dod yn ôl yn fyw! Dyna pam mae'n gallu gwneud gwyrthiau.”
3 Herod oedd wedi arestio Ioan Fedyddiwr a'i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias, gwraig ei frawd, Philip.
4 Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro: “Dydy'r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti ei chymryd hi.”
5 Er bod Herod eisiau lladd Ioan, roedd ganddo ofn gwneud hynny am fod y bobl yn ystyried Ioan yn broffwyd.