28 “Arglwydd, os mai ti sydd yna” meddai Pedr, “gad i mi ddod atat ti ar y dŵr.”
29 “Iawn, tyrd,” meddai Iesu. Yna camodd Pedr allan o'r cwch a dechrau cerdded ar y dŵr tuag at Iesu.
30 Ond pan welodd mor gryf oedd y gwynt, roedd arno ofn. Dechreuodd suddo, a gwaeddodd allan “Achub fi, Arglwydd!”
31 Dyma Iesu'n estyn ei law allan a gafael ynddo. “Ble mae dy ffydd di?” meddai wrtho, “Pam wnest ti amau?”
32 Wrth iddyn nhw ddringo i mewn i'r cwch dyma'r gwynt yn tawelu
33 Dyma'r rhai oedd yn y cwch yn ei addoli, a dweud, “Ti ydy Mab Duw go iawn.”
34 Ar ôl croesi'r llyn, dyma nhw'n glanio yn Genesaret.