3 Herod oedd wedi arestio Ioan Fedyddiwr a'i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias, gwraig ei frawd, Philip.
4 Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro: “Dydy'r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti ei chymryd hi.”
5 Er bod Herod eisiau lladd Ioan, roedd ganddo ofn gwneud hynny am fod y bobl yn ystyried Ioan yn broffwyd.
6 Ond yna, ar ddiwrnod pen-blwydd Herod dyma ferch Herodias yn perfformio dawns yn y parti. Roedd hi wedi plesio Herod cymaint
7 nes iddo dyngu ar lw y byddai'n rhoi iddi beth bynnag oedd hi'n gofyn amdano.
8 Gyda'i mam yn ei hannog, dwedodd wrtho, “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr, a'i roi i mi ar hambwrdd.”
9 Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl, ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, rhoddodd orchymyn iddo gael ei roi iddi.