1 Daeth Phariseaid a Sadwceaid at Iesu a gofyn iddo brofi pwy oedd drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol.
2 Atebodd nhw, “Pan mae'r haul yn machlud dych chi'n dweud, ‘Bydd hi'n braf fory – mae'r awyr yn goch,’
3 ac yna yn y bore, ‘Bydd hi'n stormus heddiw – mae'r awyr yn goch a'r cymylau'n ddu.’ Dych chi'n gwybod sut mae'r tywydd yn argoeli, ond does gynnoch chi ddim syniad sut i ddeall yr arwyddion sydd yma nawr.
4 Cenhedlaeth ddrwg ac anffyddlon sy'n gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i! Yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona.” Yna gadawodd nhw a mynd i ffwrdd.
5 Pan groesodd y disgyblion ochr arall y llyn, roedden nhw wedi anghofio mynd â bara gyda nhw.
6 “Byddwch yn ofalus,” meddai Iesu wrthyn nhw, “a cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid a'r Sadwceaid.”
7 Wrth drafod y peth dyma'r disgyblion yn dod i'r casgliad ei fod yn tynnu sylw at y ffaith eu bod heb fynd â bara gyda nhw.