8 Roedd Iesu'n gwybod beth oedden nhw'n ei drafod, ac meddai, “Ble mae'ch ffydd chi? Pam dych chi'n poeni eich bod heb fara?
9 Ydych chi'n dal ddim yn deall? Ydych chi ddim yn cofio'r pum torth i fwydo'r pum mil, a sawl basgedaid wnaethoch chi eu casglu?
10 Neu'r saith torth i fwydo'r pedair mil, a sawl llond cawell wnaethoch chi eu casglu?
11 Ydych chi ddim yn gweld mod i ddim yn siarad am fara go iawn? Dw i am i chi gadw draw oddi wrth furum y Phariseaid a'r Sadwceaid.”
12 Roedden nhw'n deall wedyn ei fod ddim sôn am fara go iawn; eisiau iddyn nhw osgoi dysgeidiaeth y Phariseaid a'r Sadwceaid oedd e.
13 Pan gyrhaeddodd Iesu ardal Cesarea Philipi, gofynnodd i'w ddisgyblion, “Pwy mae pobl yn ei ddweud ydw i, Mab y Dyn?”
14 “Mae rhai yn dweud Ioan Fedyddiwr,” medden nhw, “eraill yn dweud Elias, ac eraill eto'n dweud Jeremeia neu un o'r proffwydi.”