1 Bryd hynny daeth y disgyblion at Iesu a gofyn iddo, “Pwy ydy'r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol?”
2 Galwodd blentyn bach ato, a'i osod yn y canol o'u blaenau,
3 ac yna dwedodd: “Credwch chi fi, os na newidiwch chi i fod fel plant bach, fyddwch chi byth yn un o'r rhai mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
4 Felly, pwy bynnag sy'n ystyried ei hun yn fach, fel y plentyn yma, ydy'r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol.
5 “Ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i blentyn bach fel yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi.