15 “Os ydy crediniwr arall yn pechu yn dy erbyn, dos i siarad gydag e am y peth wyneb yn wyneb – paid dweud wrth neb arall. Os bydd yn gwrando arnat byddi wedi adfer y berthynas rhyngoch.
16 Ond os fydd e ddim yn gwrando arnat, dos ag un neu ddau o bobl gyda ti, achos ‘rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.’
17 Os bydd yn dal i wrthod gwrando, dos â'r mater o flaen yr eglwys. Ac os bydd hyd yn oed yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, dylid ei drin fel pagan neu'r rhai sy'n casglu trethi i Rufain!
18 “Credwch chi fi, bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu rhwystro ar y ddaear wedi eu rhwystro yn y nefoedd, a bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu caniatáu ar y ddaear wedi eu caniatáu yn y nefoedd.
19 “A pheth arall hefyd: Pan mae dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i ofyn am arweiniad wrth ddelio ag unrhyw fater, cewch hynny gan fy Nhad yn y nefoedd.
20 Pan mae dau neu dri sy'n perthyn i mi wedi dod at ei gilydd, dw i yna gyda nhw.”
21 Gofynnodd Pedr i Iesu, “Arglwydd, sawl gwaith ddylwn i faddau i frawd neu chwaer sy'n dal i bechu yn fy erbyn? Gymaint â saith gwaith?”