19 “A pheth arall hefyd: Pan mae dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i ofyn am arweiniad wrth ddelio ag unrhyw fater, cewch hynny gan fy Nhad yn y nefoedd.
20 Pan mae dau neu dri sy'n perthyn i mi wedi dod at ei gilydd, dw i yna gyda nhw.”
21 Gofynnodd Pedr i Iesu, “Arglwydd, sawl gwaith ddylwn i faddau i frawd neu chwaer sy'n dal i bechu yn fy erbyn? Gymaint â saith gwaith?”
22 Atebodd Iesu, “Na, wir i ti, dim saith gwaith, ond o leia saith deg saith gwaith!
23 “Dyna sut mae'r Un nefol yn teyrnasu – mae fel brenin oedd wedi benthyg arian i'w swyddogion, ac am archwilio'r cyfrifon.
24 Roedd newydd ddechrau ar y gwaith pan ddaethon nhw â dyn o'i flaen oedd mewn dyled o filiynau lawer iddo.
25 Doedd y swyddog ddim yn gallu talu'r ddyled, felly gorchmynnodd y meistr i'r dyn a'i wraig a'i blant gael eu gwerthu yn gaethweision, a bod y cwbl o'i eiddo i gael ei werthu hefyd, i dalu'r ddyled.