27 Roedd y brenin yn teimlo trueni drosto, felly canslodd y ddyled gyfan a gadael iddo fynd yn rhydd.
28 “Ond pan aeth y dyn allan, daeth ar draws un o'i gydweithwyr oedd mewn dyled fechan iddo. Gafaelodd ynddo a dechrau ei dagu, gan ddweud ‘Pryd wyt ti'n mynd i dalu dy ddyled i mi?’
29 “Dyma'r cydweithiwr yn syrthio ar ei liniau a chrefu, ‘Rho amser i mi, a tala i'r cwbl yn ôl i ti.’
30 “Ond gwrthododd y dyn wrando arno. Yn lle hynny, aeth â'r mater at yr awdurdodau, a cafodd ei gydweithiwr ei daflu i'r carchar nes gallai dalu'r ddyled.
31 “Roedd y gweision eraill wedi ypsetio'n fawr pan welon nhw beth ddigwyddodd, a dyma nhw'n mynd ac yn dweud y cwbl wrth y brenin.
32 “Felly dyma'r brenin yn galw'r dyn yn ôl. ‘Y cnaf drwg!’ meddai wrtho, ‘wnes i ganslo dy ddyled di yn llwyr am i ti grefu mor daer o mlaen i.
33 Ddylet ti ddim maddau i dy gydweithiwr fel gwnes i faddau i ti?’