4 Felly galwodd Herod y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig i'w gyfarfod. Gofynnodd iddyn nhw, “Ble mae'r Meseia i fod i gael ei eni?”
5 “Yn Bethlehem Jwdea,” medden nhw. “Dyna ysgrifennodd y proffwyd:
6 ‘Bethlehem, yn nhir Jwda – Nid rhyw bentref dibwys yn Jwda wyt ti; achos ohonot ti daw un i deyrnasu, un fydd yn fugail i arwain fy mhobl Israel.’”
7 Ar ôl cael gwybod hyn, dyma Herod yn galw'r gwŷr doeth i gyfarfod preifat. Cafodd wybod ganddyn nhw pryd yn union oedd y seren wedi ymddangos.
8 Yna dwedodd, “Ewch i Bethlehem i chwilio am y plentyn. Yna gadewch i mi wybod pan ddowch o hyd iddo, er mwyn i mi gael mynd i dalu teyrnged iddo hefyd.”
9 Ar ôl gwrando beth oedd gan y brenin i'w ddweud, i ffwrdd â nhw. Dyma'r seren yn mynd o'u blaen, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn.
10 Roedden nhw wrth eu bodd!