6 ‘Bethlehem, yn nhir Jwda – Nid rhyw bentref dibwys yn Jwda wyt ti; achos ohonot ti daw un i deyrnasu, un fydd yn fugail i arwain fy mhobl Israel.’”
7 Ar ôl cael gwybod hyn, dyma Herod yn galw'r gwŷr doeth i gyfarfod preifat. Cafodd wybod ganddyn nhw pryd yn union oedd y seren wedi ymddangos.
8 Yna dwedodd, “Ewch i Bethlehem i chwilio am y plentyn. Yna gadewch i mi wybod pan ddowch o hyd iddo, er mwyn i mi gael mynd i dalu teyrnged iddo hefyd.”
9 Ar ôl gwrando beth oedd gan y brenin i'w ddweud, i ffwrdd â nhw. Dyma'r seren yn mynd o'u blaen, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn.
10 Roedden nhw wrth eu bodd!
11 Pan aethon nhw i mewn i'r tŷ, dyna lle roedd y plentyn gyda'i fam, Mair, a dyma nhw'n disgyn ar eu gliniau o'i flaen a'i addoli. Yna dyma nhw'n agor eu paciau a rhoi anrhegion gwerthfawr iddo – aur a thus a myrr
12 Rhybuddiodd Duw nhw mewn breuddwyd i beidio mynd yn ôl at Herod, felly dyma'r gwŷr doeth yn teithio yn ôl i'w gwlad eu hunain ar hyd ffordd wahanol.