1 “Dyma sut mae'r Un nefol yn teyrnasu – mae fel dyn busnes yn mynd allan gyda'r wawr i gyflogi pobl i weithio yn ei winllan.
2 Cyn eu hanfon i'w winllan cytunodd i dalu'r cyflog arferol iddyn nhw o un darn arian am ddiwrnod o waith.
3 “Yna, tua naw o'r gloch y bore, aeth allan eto a gweld rhai eraill yn sefyllian o gwmpas sgwâr y farchnad yn gwneud dim byd.
4 ‘Os ewch chi i weithio yn y winllan i mi, tala i gyflog teg i chi,’ meddai.
5 Felly i ffwrdd â nhw.“Gwnaeth yn union yr un peth pan aeth allan tua chanol dydd, ac eto am dri o'r gloch y p'nawn.