10 Roedd y ddinas gyfan mewn cynnwrf pan aeth Iesu i mewn i Jerwsalem. “Pwy ydy hwn?” meddai rhai.
11 Ac roedd y dyrfa o'i gwmpas yn ateb, “Iesu, y proffwyd o Nasareth yn Galilea.”
12 Aeth Iesu i mewn i gwrt y deml a gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod.
13 Yna dwedodd, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi.’ Ond dych chi'n ei droi yn ‘guddfan i ladron’!”
14 Roedd pobl ddall a rhai cloff yn dod ato i'r deml, ac roedd yn eu hiacháu nhw.
15 Ond roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi gwylltio'n lân wrth weld y gwyrthiau rhyfeddol roedd yn eu gwneud, a'r plant yn gweiddi yn y deml, “Clod i Fab Dafydd!”
16 “Wyt ti ddim yn clywed beth mae'r plant yma'n ei ddweud?” medden nhw wrtho.“Ydw,” atebodd Iesu. “Ydych chi erioed wedi darllen yn yr ysgrifau sanctaidd, “‘Rwyt wedi dysgu plant a babanod i dy foli di’?”