16 “Wyt ti ddim yn clywed beth mae'r plant yma'n ei ddweud?” medden nhw wrtho.“Ydw,” atebodd Iesu. “Ydych chi erioed wedi darllen yn yr ysgrifau sanctaidd, “‘Rwyt wedi dysgu plant a babanod i dy foli di’?”
17 Dyma fe'n eu gadael nhw, a mynd allan i Bethania, lle arhosodd dros nos.
18 Yn gynnar y bore wedyn roedd ar ei ffordd yn ôl i'r ddinas, ac roedd e eisiau bwyd.
19 Gwelodd goeden ffigys ar ochr y ffordd, ac aeth draw ati ond doedd dim byd ond dail yn tyfu arni. Yna dwedodd, “Fydd dim ffrwyth yn tyfu arnat ti byth eto!”, a dyma'r goeden yn gwywo.
20 Pan welodd y disgyblion hyn roedden nhw wedi eu syfrdanu. “Sut wnaeth y goeden wywo mor sydyn?” medden nhw.
21 “Credwch chi fi,” meddai Iesu, “dim ond i chi gredu a pheidio amau, gallech chi wneud mwy na beth gafodd ei wneud i'r goeden ffigys. Gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun i'r môr,’ a byddai'n digwydd.
22 Dim ond i chi gredu, cewch beth bynnag dych chi'n gofyn amdano wrth weddïo.”