35 Ond dyma'r tenantiaid yn gafael yn y gweision, ac yn ymosod ar un, lladd un arall, a llabyddio un arall gyda cherrig.
36 Felly dyma'r dyn yn anfon gweision eraill, mwy ohonyn nhw y tro yma, ond dyma'r tenantiaid yn gwneud yr un peth i'r rheiny.
37 “Yn y diwedd dyma'r dyn yn anfon ei fab atyn nhw. ‘Byddan nhw'n parchu fy mab i,’ meddai.
38 Ond pan welodd y tenantiaid y mab, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd: ‘Hwn sy'n mynd i etifeddu'r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni'r winllan.’
39 Felly dyma nhw'n gafael ynddo, a'i daflu allan o'r winllan a'i ladd.
40 “Felly, beth fydd y dyn biau'r winllan yn ei wneud i'r tenantiaid pan ddaw yn ôl?”
41 Dyma nhw'n ateb, “Bydd yn lladd y cnafon drwg! Wedyn bydd yn gosod y winllan ar rent i denantiaid newydd, fydd yn barod i roi ei siâr o'r ffrwythau iddo bob tymor.”