8 Dechreuodd y dyrfa daflu eu cotiau fel carped ar y ffordd o'i flaen, neu dorri dail o'r coed a'u lledu ar y ffordd.
9 Roedd y dyrfa y tu blaen a'r tu ôl iddo yn gweiddi,“Clod i Fab Dafydd!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!” “Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!”
10 Roedd y ddinas gyfan mewn cynnwrf pan aeth Iesu i mewn i Jerwsalem. “Pwy ydy hwn?” meddai rhai.
11 Ac roedd y dyrfa o'i gwmpas yn ateb, “Iesu, y proffwyd o Nasareth yn Galilea.”
12 Aeth Iesu i mewn i gwrt y deml a gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod.
13 Yna dwedodd, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi.’ Ond dych chi'n ei droi yn ‘guddfan i ladron’!”
14 Roedd pobl ddall a rhai cloff yn dod ato i'r deml, ac roedd yn eu hiacháu nhw.