29 “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n codi cofgolofnau i anrhydeddu'r proffwydi ac yn gofalu am feddau pobl dduwiol y gorffennol.
30 Dych chi'n dweud, ‘Petaen ni'n byw bryd hynny, fydden ni ddim wedi lladd y proffwydi, fel gwnaeth ein cyndeidiau.’
31 Felly! Dych chi'n cydnabod eich bod yn ddisgynyddion i'r rhai lofruddiodd y proffwydi!
32 Iawn! Cariwch ymlaen! Waeth i chi orffen beth ddechreuodd eich cyndeidiau!
33 “Dych chi fel nythaid o nadroedd gwenwynig! Sut allwch chi osgoi cael eich dedfrydu i uffern!?
34 Bydda i'n anfon proffwydi atoch chi, a phobl ddoeth ac athrawon. Byddwch yn lladd rhai ohonyn nhw a'u croeshoelio; byddwch yn gwneud i eraill ddioddef drwy eu chwipio yn eich synagogau. Byddwch yn eu herlid o un lle i'r llall.
35 Felly, chi fydd yn gyfrifol am yr holl bobl ddiniwed sydd wedi eu lladd ar y ddaear, o Abel (wnaeth ddim o'i le), hyd Sechareia fab Beracheia, gafodd ei lofruddio gynnoch chi yn y deml rhwng y cysegr a'r allor.