35 Felly, chi fydd yn gyfrifol am yr holl bobl ddiniwed sydd wedi eu lladd ar y ddaear, o Abel (wnaeth ddim o'i le), hyd Sechareia fab Beracheia, gafodd ei lofruddio gynnoch chi yn y deml rhwng y cysegr a'r allor.
36 Credwch chi fi, bydd y genhedlaeth bresennol yn cael ei chosbi am hyn i gyd.
37 “O! Jerwsalem, Jerwsalem! Y ddinas sy'n lladd y proffwydi a llabyddio'r negeswyr mae Duw'n eu hanfon ati. Mor aml dw i wedi hiraethu am gael casglu dy blant at ei gilydd, fel mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd – ond doedd gen ti ddim diddordeb!
38 Edrych! Mae Duw wedi gadael dy deml – mae'n wag!
39 Dw i'n dweud hyn – fyddi di ddim yn fy ngweld i eto nes byddi'n dweud, ‘Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!’”