7 a chael pobl yn symud o'u ffordd a'u cyfarch yn barchus yn sgwâr y farchnad, a'u galw yn ‛Rabbi‛.
8 “Peidiwch chi â gadael i neb eich galw'n ‛Rabbi‛. Dim ond un athro sydd gynnoch chi, a dych chi i gyd yn gydradd, fel brodyr a chwiorydd i'ch gilydd.
9 A peidiwch rhoi'r teitl anrhydedd ‛Y tad‛ i neb. Duw yn y nefoedd ydy'ch Tad chi.
10 A pheidiwch â gadael i neb eich galw'n ‛meistr‛ chwaith. Un meistr sydd gynnoch chi, a'r Meseia ydy hwnnw.
11 Rhaid i'r arweinydd fod yn was.
12 Bydd pwy bynnag sy'n gwthio ei hun i'r top yn cael ei dynnu i lawr, a phwy bynnag sy'n gwasanaethu eraill yn cael ei godi i'r top.
13 “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n cau drws yn wyneb pobl, a'u rhwystro rhag dod dan deyrnasiad yr Un nefol. Dych chi'ch hunain ddim yn mynd i mewn, nac yn fodlon gadael i unrhyw un sydd am fynd i mewn gael mynediad.