1 “Bryd hynny, pan fydd yr Un nefol yn dod i deyrnasu, bydd yr un fath â deg morwyn briodas yn mynd allan gyda lampau yn y nos i gyfarfod â'r priodfab.
2 Roedd pump ohonyn nhw'n ddwl, a phump yn gall.
3 Aeth y rhai dwl allan heb olew sbâr.
4 Ond roedd y lleill yn ddigon call i fynd ag olew sbâr gyda nhw.
5 Roedd y priodfab yn hir iawn yn cyrraedd, ac felly dyma nhw i gyd yn dechrau pendwmpian a disgyn i gysgu.
6 “Am hanner nos dyma rhywun yn gweiddi'n uchel: ‘Mae'r priodfab wedi cyrraedd! Dewch allan i'w gyfarfod!’
7 “Dyma'r merched yn deffro ac yn goleuo eu lampau eto.