33 Bydd yn rhoi'r defaid ar ei ochr dde a'r geifr ar ei ochr chwith.
34 “Dyma fydd y Brenin yn ei ddweud wrth y rhai sydd ar ei ochr dde, ‘Chi ydy'r rhai mae fy Nhad wedi eu bendithio, felly dewch i dderbyn eich etifeddiaeth. Mae'r cwbl wedi ei baratoi ar eich cyfer ers i'r byd gael ei greu.
35 Dewch, oherwydd chi roddodd fwyd i mi pan roeddwn i'n llwgu; chi roddodd ddiod i mi pan roedd syched arna i; chi roddodd groeso i mi pan doeddwn i ddim yn nabod neb;
36 chi roddodd ddillad i mi pan roeddwn i'n noeth; chi ofalodd amdana i pan roeddwn i'n sâl; chi ddaeth i ymweld â mi pan roeddwn i yn y carchar.’
37 “Ond bydd y rhai cyfiawn yma yn gofyn iddo, ‘Arglwydd, pryd welon ni ti'n llwgu a rhoi rhywbeth i ti i'w fwyta, neu'n sychedig a rhoi diod i ti?
38 Pryd wnaethon ni dy groesawu di pan oeddet ti'n nabod neb, neu roi dillad i ti pan oeddet ti'n noeth?
39 Pryd welon ni ti'n sâl neu yn y carchar a mynd i ymweld â ti?’