8 Ond meddai'r morynion dwl wrth y rhai call, ‘Rhowch beth o'ch olew chi i ni! Mae'n lampau ni'n diffodd!’
9 “‘Na wir,’ meddai'r lleill, ‘fydd gan neb ddigon wedyn. Rhaid i chi fynd i brynu peth yn rhywle.’
10 “Ond tra oedden nhw allan yn prynu mwy o olew, dyma'r priodfab yn cyrraedd. Aeth y morynion oedd yn barod i mewn i'r wledd briodas gydag e, a dyma'r drws yn cael ei gau.
11 “Yn nes ymlaen cyrhaeddodd y lleill yn ôl, a dyma nhw'n galw, ‘Syr! Syr! Agor y drws i ni!’
12 “Ond dyma'r priodfab yn ateb, ‘Ond dw i ddim yn eich nabod chi!’
13 “Gwyliwch eich hunain felly! Dych chi ddim yn gwybod y dyddiad na'r amser o'r dydd pan fydda i'n dod yn ôl.
14 “Pan ddaw'r Un nefol i deyrnasu, bydd yr un fath â dyn yn mynd oddi cartref: Galwodd ei weision at ei gilydd a rhoi ei eiddo i gyd yn eu gofal nhw.