22 Roedden nhw'n drist iawn, ac yn dweud wrtho, un ar ôl y llall, “Meistr, dim fi ydy'r un, nage?”
23 Atebodd Iesu, “Bydd un ohonoch chi yn fy mradychu i – un ohonoch chi sydd yma, ac wedi trochi ei fwyd yn y ddysgl saws gyda mi.
24 Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i! Byddai'n well arno petai erioed wedi cael ei eni!”
25 Wedyn dyma Jwdas, yr un oedd yn mynd i'w fradychu, yn dweud, “Rabbi, dim fi ydy'r un, nage?”“Ti sydd wedi dweud,” atebodd Iesu.
26 Tra oedden nhw'n bwyta, dyma Iesu'n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma, a'i fwyta,” meddai. “Dyma fy nghorff i.”
27 Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto, a'i basio iddyn nhw, a dweud, “Yfwch o hwn, bob un ohonoch chi.
28 Dyma fy ngwaed, sy'n selio ymrwymiad Duw i'w bobl. Mae'n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl, i faddau eu pechodau nhw.