44 Felly gadawodd nhw a mynd i ffwrdd i weddïo yr un peth eto y drydedd waith.
45 Yna daeth yn ôl at ei ddisgyblion a dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n cysgu eto? Yn dal i orffwys? Edrychwch! Mae'r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid.
46 Codwch, gadewch i ni fynd! Mae'r bradwr wedi cyrraedd!”
47 Wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas, un o'r deuddeg disgybl, yn ymddangos gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill wedi eu hanfon nhw i ddal Iesu.
48 Roedd Jwdas y bradwr wedi trefnu y byddai'n rhoi arwydd iddyn nhw: “Yr un fydda i'n ei gyfarch â chusan ydy'r dyn i'w arestio.”
49 Aeth Jwdas yn syth at Iesu. “Helo Rabbi!”, meddai, ac yna ei gyfarch â chusan.
50 “Gwna beth rwyt wedi dod yma i'w wneud gyfaill,” meddai Iesu wrtho. Yna gafaelodd y lleill yn Iesu a'i arestio.