55 “Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth?” meddai Iesu wrth y dyrfa oedd yno. “Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma? Pam wnaethoch chi ddim fy arestio i yn y deml? Roeddwn i'n eistedd yno bob dydd, yn dysgu'r bobl.
56 Ond mae hyn i gyd wedi digwydd er mwyn i beth mae'r proffwydi'n ei ddweud yn yr ysgrifau sanctaidd ddod yn wir.” Yna dyma'r disgyblion i gyd yn ei adael ac yn dianc.
57 Dyma'r rhai oedd wedi arestio Iesu yn mynd ag e i dŷ Caiaffas yr archoffeiriad, lle roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr eraill wedi dod at ei gilydd.
58 Ond dyma Pedr yn dilyn o bell nes cyrraedd iard tŷ'r archoffeiriad. Aeth i mewn, ac eistedd i lawr gyda'r gweision diogelwch, a disgwyl i weld beth fyddai'n digwydd.
59 Roedd y prif offeiriaid a'r Sanhedrin (hynny ydy yr uchel-lys Iddewig) yn edrych am dystion oedd yn barod i ddweud celwydd am Iesu, er mwyn iddyn nhw ei ddedfrydu i farwolaeth.
60 Ond er i lawer o bobl ddod ymlaen a dweud celwydd amdano, chawson nhw ddim tystiolaeth allen nhw ei ddefnyddio yn ei erbyn. Yn y diwedd dyma ddau yn dod ymlaen
61 a dweud, “Dwedodd y dyn yma, ‘Galla i ddinistrio teml Dduw a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod.’”