62 Felly dyma'r archoffeiriad yn codi ar ei draed a dweud wrth Iesu, “Wel, oes gen ti ateb? Beth am y dystiolaeth yma yn dy erbyn di?”
63 Ond ddwedodd Iesu ddim.Yna dyma'r archoffeiriad yn dweud wrtho, “Dw i'n dy orchymyn di yn enw'r Duw byw i'n hateb ni! Ai ti ydy'r Meseia, mab Duw?”
64 “Ie,” meddai Iesu, “fel rwyt ti'n dweud. Ond dw i'n dweud wrthoch chi i gyd: Rhyw ddydd byddwch chi'n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda'r Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau'r awyr.”
65 Wrth glywed beth ddwedodd Iesu, dyma'r archoffeiriad yn rhwygo ei ddillad. “Cabledd!” meddai, “Pam mae angen tystion arnon ni?! Dych chi i gyd newydd ei glywed yn cablu.
66 Beth ydy'ch dyfarniad chi?”Dyma nhw'n ateb, “Rhaid iddo farw!”
67 Yna dyma nhw'n poeri yn ei wyneb ac yn ei ddyrnu. Roedd rhai yn ei daro ar draws ei wyneb
68 ac yna'n dweud, “Tyrd! Proffwyda i ni, Feseia! Pwy wnaeth dy daro di y tro yna?”