7 Roedd yno'n bwyta pan ddaeth gwraig ato gyda jar alabaster hardd yn llawn o bersawr drud, a thywallt y persawr ar ei ben.
8 Roedd y disgyblion yn wyllt pan welon nhw hi'n gwneud hyn. “Am wastraff!” medden nhw,
9 “Gallai rhywun fod wedi gwerthu'r persawr yna am arian mawr, a rhoi'r cwbl i bobl dlawd.”
10 Roedd Iesu'n gwybod beth oedden nhw'n ei ddweud, ac meddai wrthyn nhw, “Gadewch lonydd i'r wraig! Mae hi wedi gwneud peth hyfryd.
11 Bydd pobl dlawd o gwmpas bob amser, ond fydda i ddim yma bob amser.
12 Wrth dywallt y persawr yma arna i mae hi wedi paratoi fy nghorff ar gyfer ei gladdu.
13 Credwch chi fi, ble bynnag fydd y newyddion da yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd, bydd pobl yn cofio beth wnaeth y wraig yma hefyd.”