72 Ond gwadu'r peth wnaeth Pedr eto gan daeru: “Dw i ddim yn nabod y dyn!”
73 Ychydig wedyn, dyma rai eraill oedd yn sefyll yno yn mynd at Pedr a dweud, “Ti'n un ohonyn nhw'n bendant! Mae'n amlwg oddi wrth dy acen di.”
74 Dyma Pedr yn dechrau rhegi a melltithio, “Dw i ddim yn nabod y dyn!” meddai.A'r foment honno dyma'r ceiliog yn canu.
75 Yna cofiodd Pedr beth ddwedodd Iesu: “Byddi di wedi gwadu dy fod di'n fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu.” Aeth allan yn beichio crïo.