10 a phrynu maes y crochenydd, fel yr oedd yr Arglwydd wedi dweud.”
11 Yn y cyfamser, roedd Iesu'n sefyll ei brawf o flaen y llywodraethwr Rhufeinig. Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?”“Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu.
12 Ond pan oedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr yn cyflwyno eu hachos yn ei erbyn, roedd Iesu'n gwrthod ateb.
13 A dyma Peilat yn gofyn iddo, “Wyt ti ddim yn clywed y cyhuddiadau yma sydd ganddyn nhw yn dy erbyn di?”
14 Ond wnaeth Iesu ddim ateb hyd yn oed un cyhuddiad! Doedd y peth yn gwneud dim sens i'r llywodraethwr.
15 Adeg y Pasg roedd hi'n arferiad gan y llywodraethwr i ryddhau un carcharor – un roedd y dyrfa'n ei ddewis.
16 Roedd un carcharor roedd pawb yn gwybod amdano – dyn o'r enw Barabbas.