18 (Roedd yn gwybod yn iawn eu bod wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.)
19 Roedd Peilat yno'n eistedd yn sedd y barnwr pan ddaeth neges iddo oddi wrth ei wraig: “Mae'r dyn yna'n ddieuog – paid gwneud dim byd iddo. Ces i hunllef ofnadwy amdano neithiwr.”
20 Ond roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig wedi bod yn perswadio'r dyrfa i ofyn am ryddhau Barabbas, er mwyn gwneud yn siŵr fod Iesu'n cael ei ddienyddio.
21 Gofynnodd y llywodraethwr eto, “Pa un o'r ddau yma dych chi eisiau i mi ei ryddhau?”Dyma nhw'n ateb, “Barabbas!”
22 “Felly, beth dw i i'w wneud gyda'r Iesu yma, sy'n cael ei alw ‛Y Meseia‛?”Dyma nhw i gyd yn gweiddi, “Ei groeshoelio!”
23 “Pam?” meddai Peilat, “Beth mae e wedi ei wneud o'i le?”Ond dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uwch, “Croeshoelia fe!”
24 Dyma Peilat yn gweld fod dim pwynt cario ymlaen am fod y dyrfa'n dechrau cynhyrfu. Felly galwodd am ddŵr, a golchi ei ddwylo o flaen pawb. “Dim fi sy'n gyfrifol am ladd y dyn yma,” meddai. “Chi sy'n gyfrifol!”