2 Felly, dyma nhw'n ei rwymo a'i drosglwyddo i Peilat, y llywodraethwr.
3 Pan sylweddolodd Jwdas, y bradwr, fod Iesu'n mynd i gael ei ddienyddio, roedd yn edifar am beth wnaeth e. Aeth â'r tri deg darn arian yn ôl i'r prif offeiriaid a'r arweinwyr.
4 “Dw i wedi pechu;” meddai, “dw i wedi bradychu dyn cwbl ddieuog.”“Does dim ots gynnon ni.” medden nhw, “Dy gyfrifoldeb di ydy hynny.”
5 Felly dyma Jwdas yn taflu'r arian ar lawr y deml a mynd allan a chrogi ei hun.
6 Dyma'r prif offeiriaid yn codi'r darnau arian. “Allwn ni ddim rhoi'r arian yma yn nhrysorfa'r deml. Mae yn erbyn y Gyfraith i dderbyn arian gafodd ei dalu am ladd rhywun.”
7 Felly dyma nhw'n cytuno i ddefnyddio'r arian i brynu Maes y Crochenydd fel mynwent i gladdu pobl oedd ddim yn Iddewon.
8 A dyna pam mai ‛Maes y Gwaed‛ ydy'r enw arno hyd heddiw.