48 Dyma un ohonyn nhw'n rhedeg ar unwaith i nôl ysbwng, a'i drochi mewn gwin sur rhad. Yna fe'i cododd ar flaen ffon i'w gynnig i Iesu i'w yfed.
49 Ond dyma'r lleill yn dweud, “Gad lonydd iddo, i ni gael gweld os daw Elias i'w achub.”
50 Yna ar ôl gweiddi'n uchel eto, dyma Iesu'n marw.
51 Dyna'n union pryd wnaeth y llen oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner o'r top i'r gwaelod. Roedd y ddaear yn crynu a'r creigiau yn hollti,
52 a chafodd beddau eu hagor. (Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw cododd cyrff llawer iawn o bobl dduwiol
53 allan o'u beddau, a mynd i mewn i Jerwsalem, y ddinas sanctaidd, a gwelodd llawer iawn o bobl nhw.)
54 Dyma'r daeargryn a phopeth arall ddigwyddodd yn dychryn y capten Rhufeinig a'i filwyr oedd wedi bod yn cadw golwg ar Iesu. Gwaeddodd, “Mab Duw oedd y dyn yma, reit siŵr!”