11 Yna dyma'r diafol yn ei adael, a daeth yr angylion ato a gofalu amdano.
12 Pan glywodd Iesu fod Ioan wedi cael ei garcharu, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea.
13 Ond yn lle mynd i Nasareth, aeth i fyw i Capernaum sydd ar lan y llyn yn ardal Sabulon a Nafftali.
14 Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir:
15 “Tir Sabulon a thir Nafftali, sydd ar Ffordd y Môr,a'r ardal yr ochr draw i Afon Iorddonen,hynny ydy Galilea, lle mae pobl o genhedloedd eraill yn byw –
16 Mae'r bobl oedd yn byw mewn tywyllwch wedi gweld golau llachar; ac mae golau wedi gwawrio ar y rhai sy'n byw dan gysgod marwolaeth.”
17 Dyna pryd y dechreuodd Iesu gyhoeddi ei neges, “Trowch gefn ar bechod, achos mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.”