22 a dyma nhw'n gadael y cwch a'u tad a dechrau dilyn Iesu.
23 Roedd Iesu'n teithio ar hyd a lled Galilea, yn dysgu'r bobl yn y synagogau, yn cyhoeddi'r newyddion da am deyrnasiad Duw, ac yn iacháu pob afiechyd a salwch oedd ar bobl.
24 Daeth Iesu'n enwog y tu allan i Galilea, ac roedd pobl o bob rhan o Syria yn dod â phawb oedd yn sâl ato – pobl oedd yn dioddef o afiechydon gwahanol, neu mewn poen, eraill yng ngafael cythreuliaid, yn dioddef o ffitiau epileptig, neu wedi eu parlysu. Iachaodd Iesu nhw i gyd.
25 Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn i bobman – pobl o Galilea, y Decapolis, Jerwsalem a Jwdea, ac o'r ochr draw i Afon Iorddonen.