1 Pan welodd Iesu yr holl dyrfaoedd, aeth i fyny i ben y mynydd. Pan eisteddodd i lawr, daeth ei ddilynwyr ato,
2 a dechreuodd eu dysgu, a dweud:
3 “Mae'r rhai sy'n teimlo'n dlawd ac annigonol wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
4 Mae'r rhai sy'n galaru wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd byddan nhw'n cael eu cysuro.
5 Mae'r rhai addfwyn sy'n cael eu gorthrymu wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd byddan nhw'n etifeddu'r ddaear.