3 “Mae'r rhai sy'n teimlo'n dlawd ac annigonol wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
4 Mae'r rhai sy'n galaru wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd byddan nhw'n cael eu cysuro.
5 Mae'r rhai addfwyn sy'n cael eu gorthrymu wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd byddan nhw'n etifeddu'r ddaear.
6 Mae'r rhai sy'n llwgu a sychedu am gyfiawnder wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd byddan nhw'n cael eu bodloni'n llwyr.
7 Mae'r rhai sy'n dangos trugaredd wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd byddan nhw'n cael profi trugaredd eu hunain.
8 Mae'r rhai sydd â chalon bur wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd byddan nhw'n cael gweld Duw.
9 Mae'r rhai sy'n hyrwyddo heddwch wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd byddan nhw'n cael eu galw'n blant Duw.