1 “Byddwch yn ofalus i beidio gwneud sioe o'ch crefydd, er mwyn i bobl eraill eich gweld chi. Os gwnewch chi hynny, chewch chi ddim gwobr gan eich Tad yn y nefoedd.
2 “Felly, pan fyddi'n rhoi arian i'r tlodion, paid trefnu ffanffer er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn gwybod am y peth. Dyna mae'r rhai sy'n gwneud sioe o'u crefydd yn ei wneud yn y synagogau ac ar y strydoedd. Maen nhw eisiau i bobl eraill eu canmol nhw. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw!
3 Pan fyddi di'n rhoi arian i'r tlodion, paid gadael i'r llaw chwith wybod beth mae'r llaw dde yn ei wneud.
4 Dylai pob rhodd fod yn gyfrinach. Bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.
5 “A pheidiwch gweddïo fel y rhai sy'n gwneud sioe o'u crefydd. Maen nhw wrth eu boddau pan mae pobl yn edrych arnyn nhw yn codi i weddïo yn y synagogau neu ar strydoedd prysur. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw!