10 Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu,ac i'r cwbl sy'n dda yn dy olwg diddigwydd yma ar y ddaear fel mae'n digwydd yn y nefoedd.
11 Rho i ni ddigon o fwyd i'n cadw ni'n fyw am heddiw.
12 Maddau i ni am bob dyled i tiyn union fel dŷn ni'n maddaui'r rhai sydd mewn dyled i ni.
13 Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi,ac achub ni o afael y drwg.’
14 “Os gwnewch chi faddau i bobl pan maen nhw wedi gwneud cam â chi, bydd eich Tad nefol yn maddau i chi hefyd.
15 Ond os na wnewch chi faddau i'r bobl sydd wedi gwneud cam â chi, fydd eich Tad ddim yn maddau'ch pechodau chi.
16 “Pan fyddwch chi'n ymprydio, peidiwch gwneud i'ch hunain edrych yn drist er mwyn gwneud sioe; mae'r bobl sy'n gwneud hynny yn cuddio eu hwynebau er mwyn i bobl sylwi eu bod yn ymprydio. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw!