15 Ond os na wnewch chi faddau i'r bobl sydd wedi gwneud cam â chi, fydd eich Tad ddim yn maddau'ch pechodau chi.
16 “Pan fyddwch chi'n ymprydio, peidiwch gwneud i'ch hunain edrych yn drist er mwyn gwneud sioe; mae'r bobl sy'n gwneud hynny yn cuddio eu hwynebau er mwyn i bobl sylwi eu bod yn ymprydio. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw!
17 Pan fyddi di'n ymprydio, rho olew ar dy ben, criba dy wallt a golcha dy wyneb.
18 Wedyn fydd neb yn gallu gweld dy fod ti'n ymprydio. Dim ond dy Dad, sy'n anweledig, fydd yn gweld; a bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.
19 “Peidiwch casglu trysorau i chi'ch hunain yn y byd yma. Mae gwyfyn a rhwd yn gallu eu difetha, ac mae lladron yn gallu dod â'u dwyn.
20 Casglwch drysorau i chi'ch hunain yn y nefoedd – all gwyfyn a rhwd ddifetha dim byd yno, a does dim lladron yno i ddwyn dim byd.
21 Lle bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di.